Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 15 Hydref 2020
Amser:
09.25 -
12.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6544
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS (Cadeirydd dros dro) Hefin David AS Suzy Davies AS Siân Gwenllian AS Laura Anne Jones AS |
Tystion: |
Angela Keller, Gwasanaeth Addysg Gatholig Elizabeth Thomas, Yr Eglwys yng Nghymru Paula Webber, Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol. (CYSAGau) Libby Jones, y Panel Ymgynghori Cenedlaethol ar Addysg Grefyddol (PYCAG) Dr Ruth Wareham, Dyneiddwyr y DU Kathy Riddick, Dyneiddwyr y DU Alastair Lichten, y Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Phil Boshier (Ymchwilydd) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Hughes (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) Rhiannon Lewis (Cynghorydd Cyfreithiol) Masudah Ali (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Yn sgil methiant technegol, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, cadeiriwyd y cyfarfod dros dro gan Dawn Bowden AS wrth i Lynne Neagle, y Cadeirydd, ail-ymuno.
1.2 Croesawodd Dawn Bowden AS yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.3 Dywedodd Dawn Bowden AS fod y Cadeirydd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.4 Nodwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies AS ar gyfer yr ail sesiwn dystiolaeth.
2 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth 10 gyda Chynrychiolwyr Grwpiau Ffydd, Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol Cymru a'r Panel Ymgynghorol Cenedlaethol Addysg Grefyddol
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gwasanaeth Addysg Gatholig, yr Eglwys yng Nghymru, Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAGau) a'r Panel Ymgynghori Cenedlaethol ar Addysg Grefyddol (PYCAG)
2.2 Cytunodd y Gwasanaeth Addysg Gatholig i rannu â'r Pwyllgor bapur ganddo sy’n manylu ei bryderon ynghylch effaith darparu dau faes llafur o bosibl o dan ddarpariaethau CGM y Bil.
3 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) – sesiwn dystiolaeth 11 gyda chynrychiolwyr grwpiau anghrefyddol
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ddyneiddwyr y DU a'r Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y
cynnig.
6 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau
blaenorol.
7 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): cyflwyno'r dadansoddiad o dystiolaeth ysgrifenedig
7.1 Cafodd y
Pwyllgor gyflwyniad gan Wavehill o'r dadansoddiad o dystiolaeth
ysgrifenedig.
8 Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor
8.1 Oherwydd prinder amser, symudwyd yr eitem hon i'r cyfarfod nesaf, a gynhelir ar 21 Hydref 2020.